my gardenClick to enlargeClick to enlarge


September 28, 2005

 

 

 

 

 

 

 

Afon Dwyfor - poetry, pictures and stories.

Click to enlarge
Click to enlarge
Click to enlarge
Click to enlarge
Click to enlarge
Top of Cwm Pennant - the source of the Afon Dwyfor
Bridge crossing the Dwyfor - bottom end of Cwm Pennant
Llyn Newydd - near Plas Hendre Garn
Llyn Shades Aberkin
Henbont Aberkin
         

The Bard Eifion Wyn, writing about Cwm Pennant in his poem of the same name, called it 'the most beautiful of all valleys in Wales'. The source of the River Dwyfor is at the far end of this famous valley.

Yng ngesail y moelydd unig,
Cwm tecaf y Cymoedd yw,
Cynhefin y Carlwm a'r Cadno,
A Hendref yr hebog a'i nyw,
Ni feddaf led troed ohono,
Na chymaint na dafad nachi;
Ond byddaf yn teimlo fin nos wrth fy nhan
Mai arglwydd y cwm ydwyf fi.

Hoff gennyf fy mwthyn uncom
A wel'n y ceunant draw,
A'r gwyngalch y llus ar bob llaw;
Os isel yw'r drws i fynd iddo.
Mae beunydd a byth led y pen,
A thincial eu clychau ar bwyr y ty
Bob tymor, mae dwyffrad wen.

Os af i ar ambell ddygrwyl
Am dro i gyffiniau'r dref,
Ymwrando y byddaf fi yno
Am grawe, a chwibanadl, a bref,-
Hiraeth fel mor uwch fy mhen,
A chlywed i migwm dau wadu fynhroed,
A throi 'mysg fy mhlant a hwen.

Mi garaf hen gwm fy maboed
Tra medraf i garu dim;
Mae ef a'i lechweddau'm myned,
O hyd yn fwy annwyl im
A byddaf yn gofyn bob gwawrddydd,
A'm troed ar y talgrib lle tyr,
Pam, Arglwydd, y gwnaethost Cwm Pennant mor dlws,
A bywyd hen fygail mor fyr?
(Why God, did you make Cwm Pennant so beautiful,
And the life of an old shepherd so short?)

Eifion Wyn

 

Dwyfor

O Gwm Pennant i’w hantur - y try hon
Hyd y traeth drwy’r syntur;
Ei dyli’n gadael dolur
Daear dôl dan aradr dur.

Uwch Llyn Tan Capel gwelir - wniadreg
Rhaeadrau y coetir;
Edau wen trwy lednais dir
Eifionydd ydyw’r feinir.

Mae’n ei dwr i’r gwr a garo - enwair
Bysgod glan yn nofio;
Yn dynn yn ei abwyd o
Tan y coed maent yn cydio.

Yn oer eigion Llyn Gwragedd - mae eog
O’r mwyaf yn gorwedd;
Rhydd dyfnder hyder a hedd,
Y geulan ei hymgeledd.

Ger araf drofau’r afon - hynafol
Anghofiwn ofalon;
Ei lli sy’n eli calon
Yn yr oes wyllt, ddyrys hon.

I’r tangnef ger Coed Trefan - o’i daith arw
Daeth i orwedd weithian
Wr glew fu’n grwt ar ei glan;
Ei erlid ni wna’r dorlan!

Trwy Lyn Cam y llam ei lli, - a’i hwyneb
Tua thonnau’r weilgi;
Can Dwyfor yw: "Môr i mi",
A’i rhedlif yn pêr odli.

Ger Dwyfor egyr deufyd - eu dorau,
Gwelaf diroedd hyfryd;
Yno bwriaf am ennyd
O’m meddyliau boenau byd.

W. R. P. George


YR AFON DDWYFOR

"O Lyn Meirch i Lan y Mor"

Llyn y Meirch, a Gallt y Widdan
A Llyn Glas ar gwr Coed Trefan.
A gerllaw y mae Pwll Berw,
Clywir swn a dwndwr hwnnw.
Noddlyn wedyn a’i ddwr llonydd
A llochesau ei dorlennydd.
Llyn Maen Mawr a Llyn y Genod
Llyn Tynewydd gwael am bysgod.
Y Dorlan Fawr wedi ei golchi
Ymaith gan y mynych genlli.
Llyn y Bont a’r garreg honno
Yn ei ganol, da ‘r’wy’n cofio;
Llyn Tan Capel, Llyn y Felin
Ganwaith plygais ar fy neulin
Ar y cerrig pan yn hogyn
A dymuniadau am wnedyn.
Llyn y Gwreiddyn, Llyn Glanrafon
A Llyn Befran dan gysgodion.
Y mae un o newydd enw
Llyn ‘Rhen Shw, bedyddiwyd hwnnw.
Llyn Cae-Criw a’r coed yn cuddio
A Than y Trap sydd islaw iddo.
Llynnau Golchi a’u gro dibrin,
Ffos y Criw ac Ynys Bercin.
A gerllaw Llyn Hir sy’n llifo
Dan gysgodion coed sydd yno.
Llynnau’r Helyg a Phwll Gorlan,
Llyn yr Henbont ger Bontfechan.
Y ddwy afon beraidd hefyd
A ymunant yn y Ddwyryd.
Ac oddi yno hyd i’r cefnfor
Yr enw arnynt ydyw Dwyfor.
Y Dorlan Las a’r Wig sydd wedyn.,
Ni anghofiaf enwi Cemlyn.
Yr Allt Goch a’r llyn sydd dano
Beth yw’r enw? Nid wy’n cofio.
Llyn y Tyweirch, Rhyd yr Odyn
A Llyn Mawr hyd at Ffos Terfyn.
Ac islaw Llyn Bach sydd yma
A Llyn Du wrth Big y Morfa.

Robert Jones (Dwyfor)

Llundain 1931.

   
Click to enlarge
   
   
Snowdon
Y Wyddfa - our tallest mountain in Wales and England